Amdanom ni

Elusen Iechyd Bae Abertawe, elusen gofrestredig rhif 1122805, yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn cefnogi cleifion, staff a gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn rheoli tua 275 o gronfeydd ar gyfer offer, ymchwil, hyfforddiant a gofal cleifion. Nid yw’r elusen yn disodli cyllid y GIG ond mae’n defnyddio’r rhoddion hael a dderbynnir gan gleifion, eu teuluoedd, staff a chymunedau lleol i ddarparu y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.